Macedonia

 

• Rhanbarth Rhufeinig (gogledd gwlad Groeg heddiw). Roedd y ffordd Rufeinig, y Via Egnatia yn croesi’r rhanbarth. Y ffordd hon oedd y brif ffordd o’r Eidal i wledydd y Dwyrain.
• Proconsul oedd yn rheoli’r ardal yn y ganrif gyntaf O.C.
• Bu Paul yn cenhadu llawer iawn yn ardal Macedonia.
• Lydia oedd y person cyntaf yn Ewrop i ddod i gredu yn Iesu Grist. Roedd hi’n dod o Philipi, prif ddinas dwyrain Macedonia.
• Mae Macedonia yn ardal fynyddig iawn, gyda dyffrynnoedd dwfn.
(gweler Actau 16:5-12; 18:5; 19:21-22; 20:1, 3; 27:2; Rhufeiniaid 15:26; 1 Corinthiaid 16:5; 2 Corinthiaid 1:16; 2:13; 7:5; 8:1; 9:2-4; 11:9; Philipiaid 4:15; 1 Thesaloniaid 1:7-8; 4:10; 1 Timotheus 1:3)