Paul (Saul)

 

Cymeriad cwbl allweddol yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Enw gwreiddiol Paul (o dref Tarsus) oedd Saul. Ystyr yr enw Paul (Paulus) yn Lladin ydy “bach”, a Saul ydy fersiwn Hebraeg yr enw
• Roedd yn Iddew, yn un o’r Phariseaid ac yn ddinesydd Rhufeinig. Cafodd ei ddysgu gan y Rabbi enwog Gamaliel.
• Yn ddyn ifanc, bu’n erlid y Cristnogion cynnar, ond cafodd gyfarfod Iesu mewn ffordd ddramatig iawn pan oedd yn teithio i Ddamascus - profiad newidiodd ei fywyd yn llwyr. Cafodd gomisiwn gan Iesu i rannu’r efengyl hefo pobl o genhedloedd eraill (nid Iddewon yn unig), ac aeth ar dair taith genhadol i ddweud wrth eraill am Iesu a sefydlodd nifer o eglwysi newydd mewn trefi a dinasoedd, rhai yng ngwlad Twrci a Groeg e.e. Lystra, Philipi, Effesus, Corinth. Mae’r hanes yn llyfr yr Actau. Dyma pam gafodd yr enw Apostol (mae’r gair yn golygu ‘rhywun sy’n cael ei anfon gyda neges’ neu ‘gynrychiolydd’).
• Dioddefodd Paul bob math o berygl ar y teithiau hyn, ac aeth i’r carchar am rannu’r newyddion da am Iesu. Roedd wedi gobeithio mynd ar bedwaredd daith i Sbaen, ond cafodd ei arestio yn Jerwsalem a’i gymryd i sefyll ei brawf o flaen yr Ymerawdwr Rhufeinig yn Rhufain. Cafodd ei gadw dan warchodaeth mewn tŷ (house arrest) am ddwy flynedd, ond mae llyfr yr Actau yn gorffen yn sydyn, heb ddweud beth ddigwyddodd iddo wedyn. Mae’n debyg ei fod wedi ei ryddhau, a’i fod wedi parhau gyda’i waith cenhadol cyn cael ei arestio eto yng nghyfnod yr Ymerawdwr Nero. Mae’n debyg iddo gael ei ladd tua 60au’r ganrif gyntaf O.C. trwy orchymyn Nero.
• Ysgrifennodd Paul nifer o lythyrau at yr eglwysi cynnar er mwyn eu dysgu a’u calonogi mewn amser anodd pan oedd dilynwyr Iesu Grist yn cael eu herlid. Mae rhai o’r llythyrau hyn wedi eu cadw yn y Testament Newydd. Mae hefyd rhai llythyrau personol ysgrifennodd o at unigolion. Maen nhw’n bwysig iawn oherwydd wrth eu darllen dyn ni’n cael help i ddeall mwy am waith Iesu, a sut i fyw fel Cristnogion
(gweler Actau 7:58-9:24; 11:25-13: 9; 22:7-13; 26:14; Rhufeiniaid 1:1; 1 Cor 1:1-13; 3:4-22; 16:21; 2 Corinthiaid; 1:1-10.1; Galatiaid 1:1; 5:2; Effesiaid 1:1; 3:1; Philipiaid 1:1; Colosiaid 1:1-23; 4:18; 1 Thesaloniaid 1:1-2:18; 2 Thesaloniaid 1:1; 3:17; 1 Timotheus 1:1; 2 Timotheus 1:1; Titus 1:1; Philemon 1:1-19; 2 Pedr 3:15 hefyd SAUL)