Philip

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Un o’r deuddeg disgybl gafodd ei alw gan Iesu ar ôl iddo ddewis Simon ac Andreas. Roedd yn dod yn wreiddiol o dref Bethsaida. Dydyn ni ddim yn gwybod llawer amdano, ond yn y Testament Newydd dyn ni’n darllen amdano
• yn dod â Nathanael at Iesu
• yn methu rhoi ateb i Iesu pan awgrymodd Iesu y dylai’r deuddeg disgybl fwydo’r dyrfa fawr oedd wedi dod i wrando arno’n dysgu (Ioan 6:5)
• yn dod â’r Groegiaid oedd am weld Iesu ato.
• yn gofyn i Iesu am gael gweld y Tad.
Mae ei enw yn golygu “un sy’n caru ceffylau”!
(gweler Mathew 10:3; Marc 3:18; Luc 6:14; Ioan 1:14,43-48; 6:5-7; 12:21-22; 14:8-9; Actau 1:13)