1 Timotheus 1:10

Mae’n amlwg o’r cyfeiriad yma at gaethwasiaeth fod Paul yn ystyried yr arfer yn groes i ewyllys Duw.  Falle nad oedd Paul yn gallu newid strwythur cymdeithas dros nôs, ond roedd yn sicr yn tanseilio’r drefn.  Mewn mannau eraill mae’n gwneud hynny drwy annog y math o berthynas rhwng caethweision a’u meistri oedd yn groes i’r norm cymdeithasol – gw. Galatiaid 3:28; Effesiaid 6:5-9; Colosiaid 3:22-24.