1Pedr 1:13-21

 

Oherwydd ein bod yn gallu bod yn sicr o’r Efengyl a'i bendithion dylen ni wneud yn siwr ein bod ni’n dilyn y gwerthoedd sy’n perthyn i Deyrnas Dduw yn hytrach na dilyn gwerthoedd y byd.
Dylen ni gymryd ein ffydd a'r bywyd Cristnogol o ddifri oherwydd fod Duw wedi cymryd ein hangen ni o ddifri, ac wedi talu mor ddrud am ein rhyddid ni.