1Thes 1:1-10

 

Mae'r apostol yn diolch i Dduw am ffydd a gwaith caled y Thesaloniaid. Roedd yn glir o'r dechrau fod Duw ar waith yn eu bywydau nhw achos roedden nhw wedi credu’r gwirionedd er eu bod nhw’n gorfod diodde a chael eu herlid o achos hynny. Roedd y newid llwyr yn eu bywydau nhw yn dystiolaeth glir fod yr Efengyl yn wir.