2Cor 1:15-17

Mae Paul yn dweud ei fod wedi bwriadu croesi drosodd i Gorinth o Effesus, ac wedyn teithio yn ei flaen i Macedonia yn y gogledd, cyn mynd yn ôl i Gorinth am yr ail waith. Ond o achos y sefyllfa anodd oedd wedi codi penderfynodd y byddai’n well iddo beidio gwneud hynny (gw. 1:23-2:4).