2Thes 1:1-12

 

Mae Paul yn cyfarch ei ddarllenwyr ac yn diolch i Dduw eu bod nhw’n tyfu yn eu ffydd yn Nuw a'u cariad at ei gilydd (1 Thesaloniaid 3:6). Mae’n eu canmol nhw am ddal ati er eu bod nhw’n cael eu herlid.
Mae'n dweud wrthyn nhw fod Duw yn gyfiawn. Felly, pan fydd Iesu Grist yn dod yn ôl bydd yn barnu'r bobl sy'n eu herlid nhw a phawb arall sy'n gwrthod credu. Bydd yn cael ei anrhydeddu gan y rhai sydd wedi credu ynddo, ac mae Paul yn gweddïo y bydd eu bywydau nhw heddiw yn anrhydeddu Duw hefyd.