Abeia

 

Brenin Jwda o gyfnod y Deyrnas Ranedig.
• Mab Rehoboam, ac ŵyr i Solomon.
• Teyrnasodd Abeia am dair blynedd dros Jwda (913-910 C.C.)
• Ystyr ei enw ydy ‘Iahwe ydy fy nhad’
• Mae Abeia yn cael ei alw yn Abeiam weithiau (1 Brenhinoedd 14:31; 15:1,7-8).
• Mae ei enw yn ymddangos yng nghoeden deuluol Iesu. Tad Asa.
(gweler 1 Brenhinoedd 14:31- 15:8; 1 Cronicl 3:10; 2 Cronicl 11:20 – 14:1; Mathew 1:7)