Ahas

 

Brenin ar Jwda o gyfnod y Deynas Ranedig.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
• Daeth yn frenin Jwda wedi marwolaeth ei dad Jotham, a bu’n rheoli 735-715 C.C.
• Ceisiodd Peca (brenin Israel) a Resin (brenin Syria) ei orfodi i ymuno mewn cynghrair yn erbyn Assyria. Gwrthododd wneud hynny, a dyma’r ddau frenin yn ymosod ar Jwda.
• Ceisiodd Eseia ei annog i ymddiried yn Nuw, ond gwrthododd wneud hynny, a dewis troi at Assyria am help milwrol. Y canlyniad oedd fod Jwda wedi bod yn was bach i Assyria am ganrif ar ôl hyn.
• Roedd Ahas yn gwrthod ufuddhau i Dduw. Cododd allor Assyriaidd yn y deml yn Jerwsalem, a dilynodd ddefodau ac arferion crefyddol paganaidd (Mae’n debyg ei fod hyd yn oed wedi llosgi ei fab ei hun fel aberth!). Cosbodd Duw ef drwy adael i’r wlad gael ei gorchfygu gan Syria, Israel, Philistia ac Edom. Cafodd miloedd o filwyr eu lladd, a miloedd lawr o bobl eu caethgludo.
(gweler 2 Brenhinoedd 15:38-18:1; 20:11; 23:12; 1 Cronicl 3:13; 2 Cronicl 27:9-29:19; Eseia 1:1; 7:1-12;14;28; 38:8; Hosea 1:1 Micha 1:1; Mathew 1:9)