Alecsander

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Dyn oedd wedi bod yn perthyn i’r eglwys, ond wedi cael ei ddiarddel. Mae ei enw yn ymddangos yn ail lythyr Paul at Timotheus lle mae Paul yn sôn amdano fel rhywun wnaeth ddrwg mawr iddo. Mae’n cael ei ddisgrifio yno fel gweithiwr metal. Mae’n bosib mai hwn ydy’r un Alexander ag sy’n cael ei enwi yn 1 Timotheus 1:20.
(gweler 1 Timotheus 1:20; 2 Timotheus 4:14)

Y dyn gafodd ei wthio ymlaen i geisio dadlau o blaid yr Iddewon yn ystod y reiat yn Effesus. Y bwriad, mae’n debyg, oedd argyhoeddi’r bobl fod gan y gymuned Iddewig ddim byd i’w wneud â’r trafferthion oedd wedi codi.
(gweler Actau 19:33-34)

Un o feibion Simon o Cyrene, sef y dyn gafodd ei orfodi i gario croes Iesu. Rwffus oedd enw ei frawd.
(gweler Marc15:21)