Amon

 

Brenin ar Jwda o gyfnod y Deynas Ranedig (930 – 586 C.C.).
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu. Ystyr yr enw ydy “adeiladydd”
• Yn 22 oed, daeth Amon yn frenin ar deyrnas y De, Jwda, ac bu’n rheoli am ddwy flynedd (642-640 C.C.).
• Roedd yn gymeriad drwg ac anufudd fel ei dad Manasse, yn addoli eilunod a gwrthod gwrando ar Dduw.
• Cafodd Amon ei ladd gan weision iddo. Cafodd y llofruddion hynny eu lladd yn eu tro gan bobl y wlad, a daeth Joseia yn frenin.
(gweler 2 Brenhinoedd 21:18-25; 1 Cronicl 3:14; 2 Cronicl 33:20-25; Jeremeia 1:2; 25:3; Seffaneia 1:1; Mathew 1:10)