Apolos

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Roedd yn Iddew o Alexandria. Mae’n debyg mai Apollonius oedd ei enw llawn. Yn Actau 18 rydyn ni’n darllen amdano’n dod i Effesus, yn ddyn oedd yn gwybod am Iesu (efallai ei fod wedi clywed am Iesu trwy dystiolaeth y disgyblion yn Galilea), yn llawn o ffydd, ac yn gwybod llawer am yr Hen Destament. Roedd ganddo ddawn naturiol i annerch pobl a dechreuodd bregethu. Ond doedd o ddim yn gwybod am yr Ysbryd Glân – felly cafodd ei ddysgu am yr Ysbryd gan Priscilla ac Acwila.
O Effesus, aeth Apolos i ddinas Corinth. Rydyn ni’n dysgu yn 1 Corinthiaid 1:12 fod gwahanol grwpiau o Gristnogion wedi ffurfio yno – grŵp Paul, grŵp Apolos, grŵp Cephas a hyd yn oed grŵp Crist ei hun. Roedd Paul yn dweud y drefn wrth Gristnogion Corinth am yr holl raniadau yma. Roedd llawer yn ninas Corinth yn hoffi Apolos ac yn edmygu ei allu i siarad yn gyhoeddus ac eisiau iddo fynd yn ôl yno. Roedd Paul hefyd yn ymddiried yn llwyr yn Apolos, ac wedi gofyn iddo fynd yn ôl i Gorinth, ond dewisodd Apolos beidio mynd. Efallai ei fod am ddangos nad oedd yntau’n hapus o gwbl hefo’r rhaniadau yn yr eglwys yng Nghorinth.
Mae cyfeiriad ato yn llythyr Titus yn dweud ei fod ar siwrne hefo Zenas, ond dyn ni ddim yn cael gwybod siwrnai i ble.
(gweler Actau 18:24-19:1; 1 Corinthiaid 1:12; 3:4-6,22; 4:6; 16:12; Titus 3:13)