Bithynia

 

• Talaith yng ngogledd orllewin Asia (gwlad Twrci heddiw).
• Ysgrifennodd Pedr ei lythyr cyntaf at Gristnogion yr ardal hon. Erbyn 111 O.C. roedd eglwys wedi ei hen sefydlu yno. Roedd y Cristnogion hyn wedi dioddef llawer o elyniaeth gan bobl yn lleol.
• Cafodd Pliny yr Ieuengaf, yr awdur a’r llenor enwog, ei benodi yn llywodraethwr yno 111-113 OC. Sylwodd Pliny fod llawer o’r allorau paganaidd yn adfeilion am bod pobl wedi troi oddi wrth y duwiau paganaidd at Gristnogaeth. Ysgrifennodd at Trajan yr Ymerawdwr i drafod beth i’w wneud gyda’r Cristnogion oedd yn gwrthod addoli’r ymerawdwr fel duw.
• Cafodd Cyngor 1af yr Eglwys Gristnogol ei gynnal yn Nicea, Bithynia yn 325 O.C. Yn y cyfarfod hwn, cafodd Credo Nicea ei ffurfio.
(gweler Actau 16:7; 1 Pedr 1:1)