Caniad Solomon 1

Casgliad o gerddi cariad ydy Caniad Solomon.  Maen nhw’n aml yn cael eu dehongli fel darlun o’r berthynas rhwng Duw a’i bobl, neu Grist a’i eglwys.  Ond does dim amheuaeth eu bod nhw hefyd yn dathlu harddwch a rhyfeddod serch a’r berthynas rywiol gorfforol rhwng dyn a merch. 

Yn y bennod gyntaf ceir deialog rhwng y ferch ifanc (dywyll ei chroen) ei chariad a merched Jerwsalem.