Capernaum

• Dinas ar lan ogledd orllewin Môr Galilea mewn ardal ffrwythlon. Mae’n agos at y brif ffordd o Ddamascus i’r Aifft. Ystyr yr enw ydy “Pentref Nahum”. Does dim sôn am y lle yn yr Hen Destament, ond erbyn amser Iesu roedd yn dref bwysig gyda llawer o bobl yn byw yno, gan gynnwys pysgotwyr, ffermwyr a dynion busnes.
• Mae adfeilion llawer o synagogau yn yr ardal, felly mae’n amlwg bod pobl yn cymryd crefydd o ddifri.
• Mae’r Beibl yn sôn am Gasglwr Trethi a Chanwriad oedd yn byw yno. Mae hyn yn awgrymu bod garsiwn Rhufeinig yno.
• Dyma lle roedd Pedr ac Andreas, disgyblion Iesu, yn byw. Daeth yn ganolfan i waith Iesu am gyfnod.
• Mae dau safle posib i’r hen Gapernaum, y ddau yn agos iawn i’w gilydd, ac yn adfeilion a. Tell Hum neu Kfar Nahum
b. Khan Minya.
Tell Hum ydy’r mwyaf tebygol. Mae llawer o waith archaeolegol wedi ei wneud yno. Mae synagog sydd efallai yn dyddio nôl i’r ganrif gyntaf wedi ei ddarganfod o dan adfeilion synagog o’r bedwaredd ganrif. Hefyd mae olion tŷ oedd wedi cael ei droi yn eglwys. Mae arbenigwyr yn credu bod pobl yn arfer pererindota i’r adeilad hwn ganrifoedd yn ôl. Efallai mai tŷ Simon Pedr ydy’r adeilad.
(gweler Mathew 4:13; 8:5; 11:2,3; 17:24; Marc 1:21; 2:1; 9:33; Luc 4:23; 4:31; 7:1; 10:15; Ioan 2:12; 4:46; 6:17,24,59)