Chloe

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Mae ei henw yn ymddangos ar ddechrau llythyr Paul at y Corinthiaid lle mae’r apostol yn dweud ei fod wedi clywed am helyntion yr eglwys gan rai o bobl Chloe. Mae’n bosib mai gwraig fusnes gyfoethog o Effesus oedd Chloe, ac mai cyfeiriad sydd yma at Gristnogion oedd yn gweithio iddi.
(gweler 1 Corinthiaid 1:11)