Colosae

 

• Mae Colosae yn sefyll ar yr Afon Lycus, ar y ffordd fasnach o Effesus i’r Ewffates (10 milltir i’r dwyrain o dref Denizli yng ngwlad Twrci heddiw).
• 700 o flynyddoedd cyn amser yr Apostol Paul roedd yn ddinas bwysig iawn, ond dirywiodd i fod yn dref farchnad ail ddosbarth. Erbyn heddiw, does neb yn byw yno.
• Mae’r Testament Newydd yn dweud fod Epaffras gafodd dröedigaeth yn Effesus, yn dod o Golosae, ac Onesimus a Philemon hefyd. Mae rhai yn meddwl mai Epaffras roddodd gychwyn i’r eglwys yn Colosae.
(gweler Colosiaid 1:1)