Creta

 

• Ynys yn y Môr Canoldir.
• Ar ganol yr ynys mae cadwyn o fynyddoedd a’r enwocaf ydy Mynydd Ida. Yn ôl traddodiad cafodd y duw Zeus ei eni ar y mynydd hwn. Roedd gan Zeus fab - y brenin Minos - ac mae nifer o chwedlau enwog am y Brenin hwn. Yn ôl un chwedl cafodd ei wraig blentyn oedd yn hanner tarw ac yn hanner dyn (Y Minotor). Roedd y Minotor yn byw yng nghanol labrinth.
• Mae Creta yn ynys ffrwythlon iawn ac mae porthladdoedd da yno.
(gweler Actau 27:7, 13, 21; Titus 1:5)