Crispus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Crispus oedd arweinydd y synagog yng Nghorinth. Cafodd e a’i deulu dröedigaeth, ac roedd yn un o’r ychydig bobl gafodd eu bedyddio gan Paul ei hun. Ystyr ei enw ydy “Cyrliog”!
(gweler Actau 18 :8; 1 Corinthiaid 1:14)