Cwch o Nof Ginosar 2

Mae cwch o gyfnod Iesu yn Nof Ginosar: Mth 4:21; 14:23; Mc 1:19;  5:21; 6:45; Luc 8:22;

Oherwydd sychder yn Israel yn 1985 disgynnodd lefel y dŵr yn Môr Galilea yn is nag arfer. Ar 24 Ionawr 1986, darganfuwyd olion cwch hynafol. Yn ofalus gweithiodd archeolegwyr i symud yr olion a'u cadw nhw mewn amgueddfa yn Nof Ginosar, ger Tiberias.

Mae'r cwch ychydig dros 8 metr o hyd a 2.35 metr o led. Mae dyddio radio-carbon wedi rhoi ei oed yn 2000 o flynyddoedd, sy'n golygu ei fod yn hwylio ar y Môr Galilea tua'r un pryd ag Iesu a'i ddilynwyr.

(www.bibleplaces.com)