Dafydd

 

Cymeriad pwysig iawn yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Unedig. Bugail ddaeth yn ail frenin ar Israel (tua 1010-970 C.C.). Roedd yn or-ŵyr i Ruth a Boas (mae eu hanes nhw yn llyfr Ruth), ac yn fab ifancaf Jesse, oedd yn perthyn i lwyth Jwda. Ystyr ei enw ydy “Un annwyl Duw” . Dyma rai o brif ddigwyddiadau ei fywyd
• gweithio fel bugail. Cael ei ddewis gan Samuel i fod yn frenin wedi i Saul gael ei wrthod gan Dduw
• cysylltu bywyd Dafydd a Saul wrth i Dafydd ymladd a lladd Goliath
• Dafydd yn dod i wasanaethu yn y llys brenhinol, ac yn canu’r delyn yn aml i godi ysbryd Saul
• Saul yn genfigennus wrth i Dafydd ddod yn boblogaidd. Dafydd yn gorfod dianc am ei fywyd.
• cyfeillgarwch Dafydd a Jonathan, mab Saul, a ffyddlondeb Jonathan er bod ei dad yn ceisio lladd Dafydd
• Saul yn cael ei ladd. Dafydd yn dod yn frenin
• sefydlu Jerwsalem yn brif-ddinas, a dod ag arch y cyfamod i dabernacl arbennig yn Jerwsalem
• Dafydd yn pechu drwy gael perthynas rywiol hefo Bathsheba, gwraig Ureias
• gwrthryfel a marwolaeth Absalom mab Dafydd
• geni Solomon, mab Dafydd
• marwolaeth Dafydd

Mae Dafydd yn cael ei gofio am ei ddewrder yn ymladd Goliath ac am ei lwyddiant mawr yn arwain cenedl Israel. Cafodd ei ddewis gan Dduw ac roedd yn caru Duw. Pechodd wrth garu gyda gwraig Ureias, ond yna dyma fe’n edifarhau am ei bechod (gw. Salm 51). Ysgrifennodd Dafydd lawer o Salmau, ac yn y caneuon hyn gwelwn mor real oedd perthynas Dafydd gyda Duw. Mae pobl heddiw yn dal i ddarllen y Salmau, ac yn eu defnyddio wrth addoli. Roedd Dafydd am adeiladu teml i Dduw yn Jerwsalem, ond ei fab Solomon wnaeth y gwaith yn y diwedd. Mae gan Dafydd le arbennig yn y Beibl – mae’r Testament Newydd yn siarad llawer iawn amdano. Mae Iesu yn cael ei alw yn “Fab Dafydd” am mai Iesu oedd y Meseia oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl. Mae proffwydoliaethau’r Hen Destament yn sôn am frenin newydd, o deulu Dafydd, neu o ‘foncyff Jesse’, fyddai yn achub pobl Dduw. Cyflawnodd Iesu’r broffwydoliaeth honno.
(gweler Ruth 4:17-22; 1 Samiwel 16:13-30:31, 2 Samiwel 1:1-24:24; 1 Brenhinoedd 1:1–3:14; 5:1 – 9:24; 11:4 – 15:24; 22:50; 2 Brenhinoedd 8:19-9:28; 11:10-12:21; 14:3-22:2; 1 Cronicl 11–29; Jeremeia21:12; 33:15-26; Mathew 1:1,6,17,20; 9:27; 12:3,23; 15:22; 20:30-31; 21:9,15; 22:41-45; Marc 11:10; 12:35-37; Luc 1:27,32,69; 2:4,11; 3:31; 6:3; 18:38-39; 20:41-44; Ioan 7:42; Actau 1:16; 2:25,29,34; 4:25; 7:45-46; 13:22,34,36; 15:16; Rhufeiniaid 1:3; 4:6; 11:9; 2 Timotheus 2:8; Hebreaid 4:7; 11:32; Datguddiad 3:7; 5:5; 22:16)