Damascus

 

• Mae Damascus yn un o ddinasoedd hynaf y byd. Yng nghyfnod y Testament Newydd yn y ganrif gyntaf, roedd yn nhalaith Rufeinig Syria, tua 150 milltir i’r gogledd ddwyrain o Jerwsalem. Yn y cyfnod hwn byddai’r daith o Damascus i Jerwsalem yn cymryd rhwng 4 a 6 diwrnod. Roedd y ffordd yn mynd ar hyd Mynydd Hermon, ac yna yn disgyn i Ddamascus. Roedd yn ddinas hardd, gyda llawer o adeiladau lliw gwyn yn gorwedd ar wastadedd gwyrdd. Roedd stormydd trydanol sydyn a nerthol yn nodweddiadol o’r ardal oherwydd bod awyr gynnes y gwastadeddau yn taro yn erbyn awyr oer y mynyddoedd.
• Roedd llawer o Iddewon yn byw yn Damascus. Roedd yr ardal yn werddon (oasis) yng nghanol sychder mawr, ac yn enwog am berllannau a gerddi. Roedd hefyd yn ddinas brysur iawn gyda llawer o fasnachwyr yn mynd a dod trwy’r ddinas ar y llwybrau masnach. Roedd llawer o synagogau yno, a hefyd teml fawr i’r duw Iau (Jupiter).
• Cafodd yr apostol Paul dröedigaeth pan oedd ar ei ffordd o Jerwsalem i Ddamascus. Roedd yn mynd yno er mwyn arestio’r Cristnogion yno a’u taflu i’r carchar. Wrth agosáu at y ddinas, cafodd ei ddallu gan olau mawr. Clywodd lais Iesu yn siarad gydag e. Wedi cael ei arwain i mewn i’r ddinas gan ei ffrindiau, arhosodd yno am dri diwrnod cyn cael ei olwg yn ôl wrth i ddyn o’r enw Ananias weddïo gydag e. Pregethodd Paul y newyddion da am Iesu Grist am y tro cyntaf yn ninas Damascus, cyn gorfod dianc a’i ollwng o ben wal y ddinas mewn basged.
• Mae sôn am Damascus yn yr Hen Destament hefyd. Achubodd Abraham ei nai Lot yn agos at Ddamascus, ac yn 2 Samiwel 8 mae hanes Dafydd yn concro Damascus tua 1000 C.C.. Proffwydodd Eliseus y byddai Hasael fel darpar frenin Syria ar y gwastadedd wrth ymyl Damascus (2 Brenhinoedd 8). Roedd Naaman, y capten milwrol gafodd iachâd gwyrthiol o’r gwahanglwyf, hefyd yn dod o Ddamascus (2 Brenhinoedd 5).
• Yn y ddinas roedd stryd fawr lydan, Y Stryd Union, yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae i’w gweld o hyd. Roedd yn cael ei rhannu yn dair – y lôn ganol ar gyfer traffig, a phafin ar bob ochr i’r lôn ar gyfer cerddwyr, a bythau’r marchnatwyr.
(gweler Actau 9:2-27; 22:5-11; 26:20; 2 Corinthiaid 11:32; Galatiaid 1:17)