Eseia

Roedd Eseia yn proffwydo o tua 740 i 700 C.C.  Roedd yn amlwg yn dod o deulu dylanwadol, gan ei fod yn mynd yn ôl ac ymlaen i balas y brenin yn Jerwsalem.  Cafodd ei alw gan Dduw i fod yn broffwyd mewn gweledigaeth ryfeddol pan oedd yn y deml (Eseia 6).  Roedd yn cyhoeddi barn Duw ar Jerwsalem a Jwda am eu pechod, a daeth ei broffwydoliaethau yn wir ganrif yn ddiweddarach pan wnaeth byddin Babilon goncro’r wlad a dinistrio Jerwsalem.  Ond mae yma hefyd broffwydoliaethau rhyfeddol o obaith.  Mae rhai pobl yn galw Eseia “y bumed efengyl” gan fod rhai adrannau o’r broffwydoliaeth yn amlwg wedi eu cyflawni yng ngenedigaeth, bywyd a marwolaeth Iesu saith canrif yn ddiweddarach.  Mae rhan olaf y llyfr yn broffwydoliaethau am Dduw yn adfer Israel, yn achub ei bobl, ac yn sefydlu teyrnas dragwyddol.

Pwy?

Roedd Eseia fab Amos yn byw yn Jerwsalem yn yr 8fed ganrif cyn Crist. Roedd ganddo wraig a dau fab – Shear-iasŵf a Maher-shalal-has-bas. Dechreuodd ar ei waith fel proffwyd (clicia yma i ddarllen yr adran ar y Proffwydi os am ddysgu mwy) tua’r flwyddyn 740 cyn Crist, a gweithiodd am dros 40 mlynedd.  Mae’n amlwg yn ddyn oedd yn caru ei genedl ac am iddyn nhw wrando ar Dduw, ac fe ddangosodd ddewrder mawr wrth gyhoeddi neges Duw.

 

Cafodd Eseia weledigaeth syfrdanol yn y deml pan wnaeth Duw ei alw i fod yn broffwyd (Eseia 6) ac mae’r hyn ddigwyddodd yn cael effaith mawr arno. Mae’n gweld sancteiddrwydd a mawredd Duw a phechod dyn. Cawn ei weld yn cael profiad personol o gariad a gras Duw wrth iddo dderbyn maddeuant.  Am weddill ei fywyd cyhoeddodd Eseia y neges am y Duw sanctaidd sy’n barnu pechod, ond sy’n barod i faddau, ac am weld ei bobl yn troi’n ôl ato a chael perthynas gydag e. Dyna oedd y neges Iesu Grist i’r byd hefyd, ac mae llawer o gyfeiriadau yn llyfr Eseia at Frenin Meseianaidd yn dioddef er mwyn achub ei bobl. Yn Luc pennod 4 gwelwn arweinydd y synagog yn Nasareth yn estyn sgrôl llyfr y proffwyd Eseia i Iesu ddarllen ohono. Mae Iesu’n darllen Eseia 61.1-2  sy’n cyfeirio at y Meseia a’i waith ac yn cyhoeddi bod y geiriau wedi dod yn wir.

 

Pryd?

Dydyn ni ddim yn gwybod yn union pryd cafodd llyfr Eseia ei ysgrifennu, ond mae Eseia 30.8 yn dweud bod Duw wedi dweud wrth Eseia ei hun am gofnodi ei neges. Cyfnod stormus iawn oedd cyfnod Eseia - yn wleidyddol a chrefyddol. Ar ôl bod yn deyrnasoedd llewyrchus roedd Jwda ac Israel yn gwanychu ac ymerodraeth Asyria yn eu bygwth. Rhoddodd rhai o’r gwledydd cyfagos bwysau ar frenin Jwda i ffurfio clymblaid i ymladd Asyria, ond penderfynodd Ahas, yn erbyn ewyllys Duw, i glosio at Asyria.  Pan goncrodd Asyria Israel, teyrnas y gogledd tua 722 cyn Crist, roedd Jwda mewn sefyllfa fregus iawn.  Rhybuddiodd Eseia fod gelyn yn mynd i goncro Jwda, ac yn wir, tua 586 cyn Crist (blynyddoedd wedi marwolaeth Eseia), syrthiodd Jerwsalem i ymerodraeth Babilon. Cafodd pobl Jwda eu gorfodi i symud o’u gwlad gan eu concwerwyr a buon nhw’n gaeth ym Mabilon nes i’r Persiaid goncro Babilon ac i Cyrus, arweinydd Persia, roi hawl i’r Iddewon ddechrau symud yn ôl i Jwda tua 538 cyn Crist.

 

Pam?

Ystyr enw Eseia ydy, 'Iachawdwriaeth yr Arglwydd', neu 'Mae’r Arglwydd yn achub' a Duw yn achub ydy prif thema’r llyfr.  Mae Eseia’n disgrifio dicter Duw a’r farn sy’n dod oherwydd bod pobl Jwda wedi troi eu cefn ar Dduw.  Cafodd Eseia ei alw i rybuddio’r bobl y bydden nhw’n cael eu concro. Ond roedd eu galw nhw i edifarhau (dweud sori am wneud drwg a stopio gwneud y pethau hynny) hefyd yn waith iddo ac fe gyhoeddodd bod Duw yn barod i faddau, a’i fod am anfon arweinydd i’w rhyddhau.

 

Mae llyfr Eseia yn cynnwys casgliad o weledigaethau a phroffwydoliaethau o wahanol gyfnodau o fywyd y proffwyd. Mae’n gallu bod yn anodd ei ddilyn achos mae Eseia yn neidio o ddisgrifio digwyddiadau ei gyfnod i ddisgrifio digwyddiadau yn y dyfodol.

 

Mae gwaith Eseia yn bwysig iawn i ni fel Cristnogion oherwydd mae fel efengylydd yn cyflwyno Iesu Grist a newyddion da’r Efengyl. Mae’r Testament Newydd yn cyfeirio at, neu’n dyfynnu o lyfr Eseia bron i 40 o weithiau.  Mae’n dweud bod brenin o dras Dafydd yn mynd i ddod i deyrnasu mewn cyfiawnder, a bod gwas yn mynd i ddioddef yn fawr er mwyn achub pobl o gaethiwed. 

 

Proffwyd pwysig iawn yn amser yr Hen Destament. Ystyr ei enw ydy “ Mae’r Arglwydd yn achub”.
Roedd yn proffwydo yn Jerwsalem yn yr 8fed ganrif cyn Crist (tua 740 – 700C.C.). Roedd hyn tua 200 mlynedd ar ôl i’r wlad oedd y breninhoedd Dafydd a Solomon yn teyrnasu arni rannu yn ddwy, Jwda yn y De ac Israel yn y Gogledd.
• Cafodd ei alw gan Dduw i fod yn broffwyd pan fu farw y brenin Useia (tua 740 C.C.). Ar y pryd roedd ar ddyletswydd yn y deml. Bu’n proffwydo wedyn am 40 mlynedd. Priododd wraig oedd hefyd yn broffwydes (Eseia 8:3). Cawson nhw ddau fab.
• Mae’n cael ei ystyried yn un o’r proffwydi mawr hefo Jeremeia, Eseciel a Daniel. Galwodd ar y genedl Iddewig i edifarhau am dorri cyfraith Duw, ond roedd hefyd yn sôn am gariad a maddeuant Duw, a’i barodrwydd i fendithio pobl sy’n ffyddlon iddo.
• Mae llyfr Eseia yn gasgliad o weledigaethau a phroffwydoliaethau yn perthyn i wahanol gyfnodau ym mywyd Eseia. Mae’n sôn am ddigwyddiadau y presennol, yn arbennig yn Jerwsalem a Jwda, a hefyd am ddigwyddiadau oedd yn y dyfodol. Mae Pennod 53 yn y llyfr yn darlunio’n rhyfeddol achubiaeth Iesu trwy ei ddioddefaint. Mae’n sôn am y Gwas sy’n dioddef – darlun darlun oedd yn cael ei gyflawni’n berffaith ym mywyd, a marwolaeth Iesu Grist.
• Yn y Testament Newydd, roedd rhai pobl yn meddwl am Ioan Fedyddiwr fel Eseia newydd – proffwyd sy’n dod i roi gwybod i bobl am y Meseia.
(gweler 2 Brenhinoedd 19–20; Eseia 1:1; 6; 7:3; 8:3; 37–39; Mathew 3:3; 4:14; 8:17; 12:17; 13:14; 15:7; Marc 1:2; Luc 3:4; 4:17; Ioan 1:23; 12:38-41; Actau 8:28,30; 28:25; Rhufeiniaid 9:27-29; 10:16, 20-21; 15:12)