Esra 1:1

Roedd Jeremeia wedi proffwydo y byddai Duw yn arwain y bobl yn ôl i Jerwsalem ar ôl 70 mlynedd (Jeremeia 25:11; 29:10).  Roedd y proffwyd Eseia hefyd wedi enwi y brenin Cyrus o Persia fel yr un fyddai Duw yn ei ddefnyddio i ryddhau’r bobl ac ailadeiladu Jerwsalem a’i theml (Eseia 44:28 a 45:1,13).  Doedd Cyrus ei hun ddim yn addoli Duw Israel, ond roedd ganddo bolisi o oddefgarwch crefyddol.