Galatia

 

• Talaith yng nghanolbarth Asia Leiaf (yr ardal o amgylch Ankara, Twrci heddiw).
• Roedd pobl Galatia yn Geltiaid yn wreiddiol. Daethon nhw i ymosod ar Facedonia tua 280 CC. Roedden nhw’n filwyr ac yn ymladdwyr da, ac roedd pobl yn barod i dalu iddyn nhw ymladd yn erbyn eu gelynion.
• Roedd yr enw Galatia yn cael ei ddefnyddio ar gyfer
a. hen deyrnas Galatia, sef rhan ogleddol y dalaith Rufeinig
b. y dalaith Rufeinig lawn, gafodd ei ffurfio yn 25 C.C. Roedd y dalaith Rufeinig yn llawer mwy na’r Galatia wreiddiol.
• Mae rhai arbenigwyr yn meddwl bod llythyr Paul at y Galatiaid wedi ei ysgrifennu at eglwysi gogledd Galatia, sef yr hen deyrnas. Maen nhw’n credu bod Paul wedi ymweld â’r ardal yn ystod ei ail daith genhadol, ond dydy llyfr yr Actau ddim yn rhoi hanes yr ymweliad yna i ni. Mae arbenigwyr eraill yn credu bod y llythyr wedi ei ysgrifennu at eglwysi yn ne y dalaith Rufeinig (Antiochia, Iconiwm, Lystra a Derbe) – sef yr eglwysi gafodd eu sefydlu gan Paul ar ei daith genhadol gyntaf.
(gweler Actau 16:6; 18:23; Galatiaid 1:2 ; 3:1; 1 Corinthiaid 16:1; 2 Timotheus 4:10; 1 Pedr 1:1 )