Galilea

 

• Erbyn cyfnod Iesu Grist roedd gwlad Israel wedi ei rhannu yn dair rhan – Jwdea yn y De, Samaria yn y Canolbarth, a Galilea yn y Gogledd.
• Treuliodd Iesu ei blentyndod yn Nasareth, Galilea. Dechreuodd ar ei weinidogaeth gyhoeddus yno hefyd.
• Doedd Galilea ddim yn ardal fawr, rhyw 50 milltir o’r de i’r gogledd, a 25 milltir o’r dwyrain i’r gorllewin, ond roedd llawer iawn o bobl yn byw yno achos bod digon o fwyd yn tyfu yno. Yn y ganrif gyntaf roedd olew yr olewydd, pysgod a grawn yn cael eu hallforio o’r ardal.
• Yn ôl yr hanesydd Josephus roedd pobl Galilea yn barod i dderbyn syniadau newydd, ac yn barod i ddilyn arweinwyr newydd. Mae hefyd yn dweud am y Galileaid eu bod yn colli tymer yn sydyn, ond yn bobl ddewr iawn.
• Roedd acen arbennig gan bobl Galilea.
• Mae llawer o sôn yn y Testament Newydd am Lyn Galilea oedd tua 60 milltir i’r gogledd ddwyrain o Jerwsalem. Mae’n gorwedd tua 682 o droedfeddi yn s na Môr y Canoldir. Mae hefyd yn cael yr enw Llyn Tiberias – ardal Bahr Tabariyeh neu Yam Kinneret heddiw.
(gweler Mathew 2:22; 3:13; 4:12, 15, 23, 24, 25; 11:1; 13:21; 17:22; 19:1; 21:11; 24:32; 27:55; 28:7, 10, 16; Marc 1:9, 14, 28, 39; 3:7; 6:21; 7:24, 31; 9:30; 14:28, 70; 15:41; 16:37; Luc 1:26; 2:4, 39; 3:2; 4:14, 31; 5:17; 8:26; 13:1,2; 17:11; 22:59; 23:5, 6, 49, 55; 24:6; Ioan 1:43; 2:1, 11; 4:4, 43, 45, 47, 54; 7:1, 9, 41, 52; 12:21; 21:2; Actau 1:11; 2:7; 9:31; 10:37; 13:31 hefyd ** LLYN GALILEA; GENESARET)