Genesis 1:21

Mae’r gair sy’n cael ei gyfieithu fel ‘creaduriaid enfawr’ (tannîn) yn air sydd i’w weld mewn mytholeg Canaaneaidd am greaduriaid goruwchnaturiol oedd yn gwasanaethu’r duw Iam yn ei frwydr yn erbyn Baal.  Roedd Iam yn cael ei ddarlunio fel y Lefiathan (sef anghenfil y dyfnder).  Roedd honni mai Duw wnaeth greu y tannîn yn ddatganiad for Duw Israel yn gryfach na duwiau Canaan.