Hesron

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Patriarchiaid. Mab Peres. Tad Ram. Mae ei enw yn ymddangos yng nghoeden deuluol Iesu.
Mae Mathew yn dechrau’r rhestr gydag Abraham, tad y genedl Iddewig. Mae Luc yn wahanol, yn olrhain achau Iesu yr holl ffordd i Adda, tad y ddynoliaeth. Mae rhestrau’r ddau awdur o Abraham i Dafydd bron yr un fath, ond o Dafydd ymlaen, maen nhw’n wahanol iawn. Mae Mathew yn olrhain y teulu drwy Joseff (tad Iesu), a Luc drwy Mair (ei fam).
(gweler Genesis 46:12; Numeri 26:21; Ruth 4:18/19; 1 Cronicl 2: 5-25; 4:1, Mathew 1:3; Luc 3:33)