Hosea 1:4

Roedd yr enw roddodd Duw i fab cyntaf yn arwydd ei fod yn mynd i gosbi ei bobl.  Mae Jesreel yn cyfeirio’n ôl at rywbeth ddigwyddodd yn hanes Israel – gw. 2 Brenhinoedd 9-10.  Dyna lle roedd y brenin Jehw wedi lladd y brenin drwg Ahab.

Ond roedd arwyddocâd arall i’r enw Jesreel.  Mae’n golygu “gwasgaru” neu “hau”, ac yn Hosea 1:11 a 2: 22,23 mae llygedyn o obaith, ac mae Duw yn dweud y byddai’n plannu eto.  Felly mae’r enw yn troi o fod yn arwydd o farn i fod yn arwydd o fendith.