Mae Hosea a Gomer yn cael mab arall, ac mae Duw’n rhoi’r enw Lo-ammi iddo – enw oedd yn golygu “dim fy mhobl”. Roedd yr enw yma fel petai’n datgan yn groes i’r addewid a’r ymrywmiad wnaeth Duw i bobl Israel (Exodus 6:7; Lefiticus 26:12; Deuteronomium 27:9). Roedd Duw fel petai’n dweud fod y berthynas wedi dod i ben. Ac eto ar ddiwedd y bennod mae Duw yn cynnig gobaith eto (Hosea 1:10-2:1).
Hosea 1:8,9
|