Iago, fab Sebedeus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu a chyfnod yr Eglwys Fore. Mab Sebedeus. Brawd Ioan. Pysgotwr o Galilea. Cafodd ei alw gyda’i frawd i fod yn un o ddeuddeg disgybl Iesu, ac roedd yn un o’r tri disgybl (hefo Pedr a Ioan) oedd agosaf at Iesu. Cawson nhw weld Iesu’n iacháu merch Jairus, a gweddnewidiad Iesu. Cafodd Iago a Ioan lysenw gan Iesu – Boanerges, ‘Meibion y Daran’, efallai oherwydd eu bod nhw mor fyrbwyll a diamynedd. Roedd Iago a’i frawd am gael lle arbennig yn nheyrnas Iesu. Cawson nhw eu rhybuddio gan Iesu y bydden nhw’n yfed o’r un gwpan â’u Meistr, hynny ydy, byddai’n rhaid iddyn nhw ddioddef. Daeth hyn yn wir, oherwydd cafodd Iago ei ddienyddio gyda chleddyf gan Herod Agripa yn ôl Llyfr yr Actau.
(gweler Mathew 4:21;10:2;17:1; Marc 1:19,29; 3:17; 5:37; 9:2; 10:35,41; 13:3; 14:33; Luc 5:10; 6:14; 8:51; 9:28,54; Actau 12:2)