In 1:1-18

 

Mae Mathew a Luc yn dweud fod Mair wedi cael ei hun yn feichiog drwy'r Ysbryd Glân (Mathew 1:18,20; Luc 1:34,35). Mae Ioan yn esbonio i ni sut y daeth y Gair (oedd yn Dduw ac a greodd bob peth yn y dechreuad) i fod yn berson dynol.
Cafodd ei wrthod gan ei bobl ei hun, ond roedd y sawl oedd yn credu ynddo yn dod yn blant Duw. Roedd y person gogoneddus yma yn dangos haelioni Duw a’i wirionedd – yn wir, roedd yn ddatguddiad llawn o Dduw ei hun.
Yn adn.4-9 mae pum gair allweddol yn Efengyl Ioan; bywyd, golau, tystiolaeth, credu a byd (yr olaf yn air mae Ioan yn ei ddefnyddio gyda sawl ystyr gwahanol iddo).