Jesse

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Unedig (1050 – 930 C.C.). Tad y brenin Dafydd. Mab Obed.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
• Roedd yn byw ym Methlehem ac roedd ganddo wyth mab. Dafydd oedd yr ieuengaf ohonyn nhw.
• Yn ystod y cyfnod pan oedd Saul yn ceisio lladd Dafydd, anfonodd Dafydd ei dad a’i fam i aros at frenin Moab er mwyn eu cadw’n ddiogel. .
• Mae enw Jesse yn ymddangos yng nghoeden deuluol Iesu.
• Mae’r proffwyd Eseia yn disgrifio cangen o “gyff Jesse” (plentyn o goeden deuluol Jesse) fydd yn dod i helpu’r byd – Iesu Grist oedd y plentyn hwn, oherwydd roedd yn perthyn i deulu Jesse.
(gweler Ruth 4:22; 1 Samiwel 16-17;20:27-31; 22: 7-13; 25:10; 2 Samiwel 20:1; 23:1; 1 Brenhinoedd 12:16; 1 Cronicl 2:12/13; 10:14; 12:18; 29:26; 2 Cronicl 10:16-11:18; Salm 72:20; Eseia 11:1-10; Mathew 1:5/6; Luc 3:32; Actau 13:22; Rhufeiniaid 15:12)