Joram

 

Cymeriad yn yr Hen Destament, o gyfnod y Deyrnas Ranedig.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
• Yn fab i Jehosoffat brenin Jwda, priododd Joram ferch i Ahab brenin Israel, a’i wraig Jesebel.
• Roedd Joram yn wahanol iawn i’w dad duwiol, efallai am ei fod wedi dod o dan ddylanwad ei wraig a’i fam yng nghyfraith, oedd yn addoli duwiau paganaidd. Pan ddaeth yn frenin (tua 852 – 841 C.C.), llofruddiodd ei frodyr (chwech ohonyn nhw) er mwyn cael gwared o unrhyw gystadleuaeth.
• Ysgrifennodd y proffwyd Elias lythyr ato yn dangos ei fod o dan farn Duw, ac y byddai’n marw o afiechyd ofnadwy ar y coluddion.
(gweler 2 Brenhinoedd 8:21-24; 11:2; 1 Cronicl 3:11; 2 Cronicl 21; Mathew 1:8)