Joseff

 

Enw ar ddau ddyn sy’n cael eu rhestru yng nghoeden deuluol Iesu yn efengyl Luc. Does dim mwy o fanylion ar gael i ni amdanyn nhw erbyn heddiw.
(gweler Luc 3:24,30)
 

 

Joseff, brawd Iesu.
Brawd Iesu, gafodd ei eni i Mair a Joseff ar ôl geni Iesu. Roedd brodyr Iesu ar un adeg yn amheus iawn o’u brawd mawr, ac yn meddwl ei fod yn wallgo. Ond wedi’r Atgyfodiad, daethon nhw i gredu ynddo, a gweithio dros yr Efengyl. Weithiau mae Joseff yn cael ei alw yn Joses.
(gweler Mathew 13:55; 27:56; Marc 6:3;15:40,47)
 

 

b. Joseff gŵr Mair.
• Saer coed oedd yn perthyn i deulu Dafydd, brenin enwocaf Israel. Roedd Dafydd yn frenin ar
Israel tua mil o flynyddoedd cyn dyddiau Iesu Grist.
• Roedd Joseff wedi ei ddyweddïo i Mair pan gafodd hi wybod gan angel ei bod hi wedi ei dewis i fod yn fam i Iesu. Daeth angel at Joseff hefyd i ddweud wrtho am beidio poeni am briodi Mair, bod y cyfan yn rhan o gynllun Duw i achub pobl.
• Wedi i Iesu gael ei eni roedd Joseff yn gofalu amdano fel petai’n dad naturiol iddo – wrth fynd fel teulu i Jerwsalem ar gyfer seremoni puredigaeth, ac wrth amddiffyn Iesu rhag Herod wrth ffoi i’r Aifft. Pan mae Iesu ar goll yn Jerwsalem yn ddeuddeg oed, mae Joseff yn pryderu amdano fel Mair, ac yn chwilio amdano.
• Mae’n debyg fod Joseff wedi marw cyn i Iesu ddechrau ar ei weinidogaeth gyhoeddus. Does dim sôn amdano yn yr Efengylau ar ôl plentyndod Iesu, ac mae Iesu, wrth iddo ddioddef ar y groes, yn gofyn i Ioan, un o’r disgyblion, ofalu am Mair, sy’n awgrymu ei bod hi’n weddw.
• Mae’r Ysgrythur hefyd yn sôn am frodyr a chwiorydd Iesu. Mae’n debyg mai plant naturiol Joseff oedd y rhain – plant gafodd eu geni i Mair a Joseff ar ôl Iesu.
(gweler Mathew 1:16-25; 2:13-15,19-23; Luc 1:27; 2.4,16;3:23; 4:22; Ioan 1:45; 6:42)