Joseia

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Ranedig.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
• Daeth Joseia yn frenin yn wyth oed, pan gafodd ei dad Amon ei ladd. Bu’n frenin tua 640 – 609 C.C. Mae 2 Brenhinoedd pennod 23, adnod 25 yn dweud “Ac ni chododd neb tebyg iddo ar ei ôl.”.
• Roedd yn enwog oherwydd yr holl ddiwygiadau crefyddol ddigwyddodd yn ystod ei frenhiniaeth. Trodd y brenin ifanc duwiol y wlad yn ôl o baganiaeth cyfnod ei dad at addoli’r gwir Dduw.
• Un o’r pethau cyntaf wnaeth Josea oedd ail-adeiladu’r deml. Wrth wneud y gwaith cafodd llyfr y Gyfraith ei ddarganfod. Wedi i Josea a’r bobl glywed y Gyfraith yn cael ei darllen, cytunon nhw i gadw gorchmynion Duw. Aeth y brenin ati i ddinistrio’r delwau, yr allorau a’r temlau paganaidd. Ond mae Jeremeia, y proffwyd yn awgrymu mai rhywbeth allanol oedd hyn i gyd, a bod y bobl wedi troi’n ôl at addoli delwau yn fuan iawn ar ôl i Joseia farw.
• Cafodd y brenin ei ladd ym mrwydr Megido wrth iddo ymladd yn erbyn Necho, brenin yr Aifft.
(gweler 1 Brenhinoedd 13:2; 2 Brenhinoedd 21:24-23:34; 1 Cronicl 3:14/15; 2 Cronicl 33:25-36:1; Jeremeia 1:2/3;3:6; 22:11-18;25:1-27:1; 35:1 – 37:1; 45:1-46:2; Seffaneia 1:1; Mathew 1:10/11)