Jwda

 

Enw ar y llwyth/teulu oedd yn ddisgynyddion i Jwda.
Jwda oedd pedwerydd mab Jacob. Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Patriarchiaid. Roedd Abraham yn daid/dad-cu iddo. Enw ei fam oedd Lea. Ystyr yr enw Jwda ydy “moliant”. Pan benderfynodd meibion Jacob gael gwared o’u brawd Joseff o achos ei freuddwydion, Jwda oedd yr un lwyddodd i arbed bywyd Joseff drwy awgrymu eu bod nhw’n ei werthu fel caethwas i’r Ismaeliaid. Wedyn mae hanes arall am Jwda yn cael ei dwyllo gan Tamar, ei ferch yng nghyfraith i feddwl mai putain oedd hi. Cysgodd gyda hi. Canlyniad hynny oedd geni efeilliaid o’r enw Peres a Sera, ac mae enwau’r ddau yma i’w gweld yng nghoeden deuluol Iesu yn Mathew 1.
(gweler Genesis 29:35;35:23; 37:26-28;43:3-- 44:18; 49:8-10; Exodus 1:2; 1 Cronicl 2:1-10; Mathew 1:2-3; Luc 3:33)
 

 

Jwda pedwerydd mab i Jacob. Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Patriarchiaid. Roedd Abraham yn daid/dad-cu iddo. Enw ei fam oedd Lea. Ystyr yr enw Jwda ydy “moliant”. Pan benderfynodd meibion Jacob gael gwared o’u brawd Joseff o achos ei freuddwydion, Jwda oedd yr un lwyddodd i arbed bywyd Joseff drwy awgrymu eu bod nhw’n ei werthu fel caethwas i’r Ismaeliaid. Wedyn mae hanes arall am Jwda yn cael ei dwyllo gan Tamar, ei ferch yng nghyfraith i feddwl mai putain oedd hi. Cysgodd gyda hi. Canlyniad hynny oedd geni efeilliaid o’r enw Peres a Sera, ac mae enwau’r ddau yma i’w gweld yng nghoeden deuluol Iesu yn Mathew 1.
(gweler Genesis 29:35;35:23; 37:26-28;43:3-- 44:18; 49:8-10; Exodus 1:2; 1 Cronicl 2:1-10; Mathew 1:2-3; Luc 3:33)