Laodicea

 

• Mae safle hen ddinas Laodicea tua 10 milltir o Pamukkale, yng ngwlad Twrci. Roedd Laodicea tua 11 milltir o Colosae. Cafodd yr enw ar ôl Laodice, gwraig Seleucid Antiochus 11, sefydlydd y ddinas yn y 3edd ganrif C.C. Cafodd y ddinas ei dinistrio tua 60 C. C. Yna cafodd ei hail adeiladu gan y Rhufeiniaid, ond cafodd ei dinistrio gan ddaeargryn arall yn y bumed ganrif O.C.. Mae olion amffitheatr a ffynnon addurnedig i’w gweld yno heddiw.
• Roedd yn ganolfan fasnachol bwysig yng nghyfnod y Rhufeiniaid achos bod llawer o ffyrdd pwysig yn croesi yno. Daeth yn ganolfan bancio bwysig. Roedd tir yr ardal yn ffrwythlon iawn. Roedd y ddinas enwog am gynhyrchu gwlân du, eli llygaid a ffisig/moddion.
• Roedd prinder dŵr yn broblem fawr yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Roedd dŵr y ddinas yn dod o ffynhonnau poeth oedd yn bell o’r ddinas. Roedd y dŵr yn dal yn gynnes wrth gyrraedd y dre. O achos y broblem prinder dŵr, symudodd pobl o’r hen dref ac adeiladu tref newydd yn nes at y ffynhonnau.
• Does dim cofnod bod Paul wedi ymweld ag eglwys Laodicea. Mae’n amlwg fod perthynas agos rhwng eglwysi’r ardal â’i gilydd. Mae eglwys Laodicea yn un o’r eglwysi sy’n cael ei chyfarch yn llyfr y Datguddiad.
(gweler Colosiaid 2:1; 4:13-16; Datguddiad 1:11; 3:14)