Mair

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Cristion yn Rhufain sy’n cael ei henwi yn llythyr Paul at y Rhufeiniaid. Mae hi’n cael ei disgrifio fel un oedd yn gweithio’n galed ar ran yr eglwys.
(gweler Rhufeiniaid 16:6)

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu.
Mae llawer yn credu mai mam Iesu ydy’r Mair y cyfeirir ati yma, ac mai dau o’i frodyr oedd Iago a Joseff. (gweler IAGO; JOSEFF) Ond mae’n bosib, ar y llaw arall, mai’r un person ydy’r Mair yma a Mair gwraig Clopas (Mathew 27:55) ac mai hi hefyd ydy’r un sy’n cael ei galw ‘y Fair arall’ (Mathew 27:61).
Teithiodd hi i Jerwsalem o Galilea hefo’r merched eraill. Safodd wrth y groes wrth i Iesu ddioddef a marw yno. Dau ddiwrnod ar ôl claddu Iesu yn y bedd, mae Marc yn dweud ei bod hi a rhai o’r merched eraill wedi mynd â pherlysiau yno er mwyn trin corff Iesu, a’u bod nhw wedi gweld angel yn sefyll yn y bedd gwag
(gweler Mathew 27:56-61; 28:1; Marc 15:40,47; 16:1; Luc 24:10)

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu.
Mae rhai yn credu mai mam Iesu ydy’r Mair y cyfeirir ati yma. Ond mae’n bosib, ar y llaw arall, mai’r un person ydy’r Mair yma a Mair gwraig Clopas (Mathew 27:55). Mae'n debyg mai hi ydy’r un sy’n cael ei galw ‘y Fair arall’ yn Mathew 27:61.
Teithiodd hi i Jerwsalem o Galilea hefo’r merched eraill. Safodd wrth y groes wrth i Iesu ddioddef a marw yno. Dau ddiwrnod ar ôl claddu Iesu yn y bedd, mae Marc yn dweud ei bod hi a rhai o’r merched eraill wedi mynd â pherlysiau yno er mwyn trin corff Iesu, a’u bod nhw wedi gweld angel yn sefyll yn y bedd gwag
(gweler Mathew 27:56-61; 28:1; Marc 15:40,47; 16:1; Luc 24:10)

Merch ifanc o dref Nasareth gafodd wybod gan angel bod Duw wedi ei dewis i fod yn fam i Iesu. Ar y pryd roedd hi wedi dyweddïo gyda dyn o’r enw Joseff, oedd yn saer coed. Eglurodd angel iddi y byddai hi’n beichiogi trwy’r Ysbryd Glân. Mae hanes geni Iesu ym mhentref Bethlehem ar ddechrau Efengyl Mathew ac Efengyl Luc. Canodd Mair gân o fawl i Dduw am ei dewis hi. Roedd Mair yn perthyn i Elisabeth, mam Ioan Fedyddiwr - cyfnither o bosib. Wrth ddarllen yr Efengylau dyn ni’n gweld Mair yn fam ofalus adeg geni Iesu ym Methlehem, a hefyd pan aeth Iesu ar goll yn Jerwsalem pan oedd yn ddeuddeg oed. Mair sydd gyda Iesu yn y wledd briodas yn Cana pan wnaeth y wyrth o droi’r dŵr yn win. Dyma ei wyrth gyntaf. Mae Efengyl Ioan yn dweud fod Mair wrth droed croes Iesu yn edrych arno’n dioddef pan ofynnodd Iesu i Ioan ofalu amdani. Y peth olaf gawn ni wybod am Mair yn yr Ysgrythur ydy ei bod hi gyda’r disgyblion wrth iddyn nhw ddal ati i weddïo’n gyson wedi i Iesu fynd yn ôl i’r nefoedd.
(gweler Mathew 1:16-20;2:11; 13:55; Marc 6:3; Luc 1:27-56;2:5-34; Ioan 2:1-12; 19:25-27; Actau 1:14)

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Dim ond unwaith mae’r Beibl yn cyfeirio ati, yn llyfr yr Actau. Ar ôl i Pedr ddianc o’r carchar, mae’n mynd yn syth i’w thŷ hi yn Jerwsalem, man cyfarfod i’r Cristnogion lleol. Mae’r Ysgrythur yn dweud fod Barnabas yn gefnder i Marc, felly roedd Mair yn fodryb i Barnabas.
(gweler Actau 12:12 hefyd IOAN MARC)

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu.
Mae llawer yn credu mai mam Iesu ydy’r Mair y cyfeirir ati yma, ac mai dau o’i frodyr oedd Iago a Joseff. (gweler Mathew 15:33; IAGO; JOSEFF) Ond mae’n bosib, ar y llaw arall, mai’r un person ydy’r Mair yma a Mair gwraig Clopas (Mathew 27:55) ac mai hi hefyd ydy’r un sy’n cael ei galw ‘y Fair arall’ (Mathew 27:61).