Mair, mam Iesu

 

Merch ifanc o dref Nasareth gafodd wybod gan angel bod Duw wedi ei dewis i fod yn fam i Iesu. Ar y pryd roedd hi wedi dyweddïo gyda dyn o’r enw Joseff, oedd yn saer coed. Eglurodd angel iddi y byddai hi’n beichiogi trwy’r Ysbryd Glân. Mae hanes geni Iesu ym mhentref Bethlehem ar ddechrau Efengyl Mathew ac Efengyl Luc. Canodd Mair gân o fawl i Dduw am ei dewis hi. Roedd Mair yn perthyn i Elisabeth, mam Ioan Fedyddiwr - cyfnither o bosib. Wrth ddarllen yr Efengylau dyn ni’n gweld Mair yn fam ofalus adeg geni Iesu ym Methlehem, a hefyd pan aeth Iesu ar goll yn Jerwsalem pan oedd yn ddeuddeg oed. Mair sydd gyda Iesu yn y wledd briodas yn Cana pan wnaeth y wyrth o droi’r dŵr yn win. Dyma ei wyrth gyntaf. Mae Efengyl Ioan yn dweud fod Mair wrth droed croes Iesu yn edrych arno’n dioddef pan ofynnodd Iesu i Ioan ofalu amdani. Y peth olaf gawn ni wybod am Mair yn yr Ysgrythur ydy ei bod hi gyda’r disgyblion wrth iddyn nhw ddal ati i weddïo’n gyson wedi i Iesu fynd yn ôl i’r nefoedd.
(gweler Mathew 1:16-20;2:11; 13:55; Marc 6:3; Luc 1:27-56;2:5-34; Ioan 2:1-12; 19:25-27; Actau 1:14)