Manasse

 

Disgynyddion i Manasse. Mab hynaf Joseff, wedi ei eni yn yr Aifft o wraig Eifftaidd (Asenath, merch Potiffera). Ystyr ei enw ydy “Gwnaeth i mi anghofio”. Mae’r Beibl yn sôn llawer am 12 llwyth Israel, ac mae’r llwythau wedi eu henwi ar ôl meibion Jacob. Does dim cyfeiriad at lwyth Joseff – dim ond llwythau Manasse ac Effraim, meibion Joseff. Roedd llwyth Manasse yn enwog am ddewrder. Mae rhai o arwyr yr Hen Destament o lwyth Manasse – Gideon a Jefftha er enghraifft. Mae 1 Cronicl 5:18 ymlaen yn dweud hanes pobl Manasse yn cael eu caethgludo i Assyria.
(gweler Numeri 1:10-2:20; 7:54;10:23; 13:11;26:28-27:1; 32:33-41;34:14-23;36:1-12; Deuteronomium 3:13-14;29:8;22:17-34:2; Josua 1:12; 4:12;16:4-18:7; 20:8-22:30; Barnwyr 1:27; 1 Brenhinoedd 4:13; 1 Cronicl 5:18-7:29; 9:3; 12:19-37; 26:32-27:21; Salm 80:2; Eseia 9:21; Datguddiad 7:6)
 

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Ranedig.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
• Daeth i reoli teyrnas y De, Jwda ar ôl Heseceia, a bu’n frenin am 55 o flynyddoedd (697 – 642 C.C.).
• Roedd y cyfnod hwn yn gyfnod paganaidd iawn gyda’r bobl yn dilyn cwltiau Asyria, yn addoli Baal mewn mannau uchel, ac yn addoli’r sêr. Roedden nhw hefyd yn ymhel ag ysbrydion a dewiniaid.
(gweler 2 Brenhinoedd 20:21-21:20; 23:12-24; 1 Cronicl 3:13; 2 Cronicl 32:33 – 33:23; Jeremeia 15:4; Mathew 1:10)