Nathanael

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Efengyl Ioan yn unig sy’n cyfeirio at yr enw Nathanael. Roedd yn un o’r deuddeg disgybl – enw arall ar Bartholomeus ydy Nathanael. Roedd yn dod o dref Cana yng Ngalilea. Cafodd ei gyflwyno i Iesu gan Philip. Roedd ganddo ei amheuon am Iesu - roedd yn methu derbyn y posibilrwydd fod Meseia yn mynd i ddod o Nasareth. Ond cafodd ei synnu pan weloddd fod Iesu yn ei adnabod i’r dim. Cyffesodd Nathanael Iesu fel Mab Duw a Brenin Israel, ond addawodd Iesu i’w ddisgyblion y bydden nhw’n dod i weld rhywbeth mwy – sef mai fo, Mab y Dyn, sy’n pontio rhwng y nefoedd a’r ddynoliaeth gyfan. Nathanael oedd y disgybl sylwodd gyntaf ar Iesu pan oedd ar lan Môr Tiberias ar ôl iddo atgyfodi.
(gweler Ioan 1:45-49; 21:2 hefyd BARTHOLOMEUS)