Onesifforus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Ar ddiwedd ei ail lythyr at Timotheus mae Paul yn anfon cofion at deulu Onesifforus. Mae hefyd yn gweddïo dros y teulu oherwydd fod Onesifforus wedi bod mor dda wrtho, ac wedi chwilio amdano er mwyn ei weld pan oedd yng ngharchar Rhufain. Mae’n amlwg fod Timotheus wedi gweld ei ddaioni ar waith yn Effesus.
(gweler 2 Timotheus 1:16, 4:19)