Peres

 

Cymeriad yn yr Hen Destament, o gyfnod y Patriarchiaid. Un o efeilliaid, meibion Jwda a Tamar.
• Twyllodd Tamar ei thad yng nghyfraith Jwda. Gwnaeth iddo feddwl mai putain oedd hi er mwyn ei gael i gysgu hefo hi ar ôl iddo wrthod gadael i’w drydydd mab ei phriodi. Beichiogodd Tamar a chafodd efeilliaid.
• Wrth i’r ddau fachgen gael eu geni, rhoddodd un ei fraich allan gyntaf, a rhoddodd y fydwraig edau goch am y llaw i brofi mai hwnnw oedd y cyntaf i gael ei eni. Ond tynnodd y babi ei law yn ôl, a daeth y babi arall allan o’r groth gyntaf. Ymateb y nyrs oedd “Sut wnest ti dorri allan gynta!”. Cafodd ei alw yn Peres - sy’n golygu ‘torri allan’. Yna cafodd y babi arall ei eni gyda’r edau goch am ei arddwn. Cafodd hwnnw ei alw yn Sera – gair sy’n golygu cochni.
• Mae enwau’r ddau efaill i’w gweld yng nghoeden deuluol Iesu yn y Testament Newydd yn Mathew.
(gweler Genesis 38:30; 46:12; Numeri 26:20/21; Ruth 4:12-18; 1 Cronicl 27:3; Nehemeia 11:4-6; Mathew 1:3; Luc 3:33 hefyd SERA)