Pergamus

 

• Yr enw modern ar Pergamus ydy Bergama yng ngwlad Twrci heddiw.
• Dyma hen brifddinas y dalaith Rufeinig Asia. Mae wedi cael ei hadeiladu ar fryn sy’n codi 1,000 o droedfeddi uwchben y dyffryn. Mae’r enw Groeg yn golygu “caer uchel”.
• Roedd yn ganolfan i 4 cwlt paganaidd pwysig – cwlt Zeus, Athena, Dionysus ac Asclepius. Mae adfeilion teml Asclepius i’w gweld heddiw ac mae ffosydd dŵr yn rhedeg o dan y deml.
• Pan ddechreuodd yr Ymerawdwyr Rhufeinig gael eu trin fel duwiau, cafodd y deml gyntaf ei hadeiladu (tua 29 C.C.) er anrhydedd i Rufain ac Awgwstws. Yn ddiweddarach daeth hyn yn broblem wirioneddol i’r Cristnogion cynnar. Er bod y Cristnogion yn fodlon ymostwng i’r awdurdodau gwleidyddol ac felly’n deyrngar i’r Ymerodraeth, doedden nhw ddim yn barod i addoli’r Ymerawdwr fel duw. Cafodd llawer eu lladd ar ôl gwrthod cymryd rhan yn y defodau.
(gweler Datguddiad 1:11; 2:12)