Phil 1:1-11

 

Nid dim ond cyfarchiad traddodiadol ar ddechrau llythyr sydd yma. Dyn ni’n gweld gymaint oedd Paul yn ei feddwl o Gristnogion Philipi. Roedd wrth ei fodd yn eu gweld nhw’n tyfu yn y ffydd. Mae'n gweddïo ar i'w cariad nhw a'u dealltwriaeth o ewyllys Duw dyfu, ac i’r ffrwyth sy’n dangos fod ganddyn nhw berthynas iawn gyda Duw ddangos ei hun yn eu bywydau.