Phil 1:25

Mae Paul yn mynegi yr un hyder, y byddai’n gweld y Philipiaid eto, yn 2:24. Mae lle i gredu fod Paul wedi cael ei ryddhau ar ôl ymddangos o flaen yr uchel-lys yn Rhufain, a’i fod wedi mynd ar bedwaredd daith genhadol. Mae llenyddiaeth Gristnogol gynnar yn dweud ei fod wedi mynd â’r efengyl i Sbaen, a rydyn ni’n gwybod ei fod wedi bwriadu gwneud hynny (Rhufeiniaid 15:24,28). Yn ei lythyrau at Timotheus a Titus mae sôn amdano yn mynd i Ynys Creta (Titus 1:5), Nicopolis (Titus 3:12), Effesus a Philipi (1 Timotheus 1:3), a Miletus (2 Timotheus 4:20).