Phil 1:27-2:18

 

Mae'n annog ei ddarllenwyr i sefyll yn gadarn dros y gwirionedd fel mae e’n gwneud, ac i ymddwyn yn deilwng o'r Efengyl beth bynnag sy’n digwydd iddyn nhw.
Mae'n eu hannog nhw i sefyll gyda’i gilydd, ac i fod yn ostyngedig fel Iesu Grist ei hun. Mae’n dyfynnu emyn sy'n sôn am y modd y bu i Iesu Grist ddarostwng ei hun, dioddef y groes cyn cael ei ddyrchafu yn ôl at Dduw.
Mae Iesu Grist hefyd yn esiampl o ufudd dod (adn.12). Duw sy’n ei gwneud yn bosibl i ni fyw'r bywyd Cristnogol yn ffyddlon (adn.13).