Rhestr Achau

 

Mae Mathew yn dechrau rhestr teulu Iesu gydag Abraham, tad y genedl Iddewig. Mae Luc yn wahanol, yn olrhain achau Iesu yr holl ffordd i Adda, tad y ddynoliaeth.
Mae rhai yn credu fod Mathew am ddangos y cysylltiad rhwng Iesu â’r brenin Dafydd, ond fod Luc am ddangos fod Iesu yn perthyn i’r ddynoliaeth gyfan. Mae llawer o’r enwau i’w gweld yn llyfr Genesis ac ar ddechrau 1 Cronicl.
Mae rhestrau’r ddau awdur o Abraham i Dafydd bron yr un fath, ond o Dafydd ymlaen, maen nhw’n wahanol iawn. Mae Mathew yn olrhain y teulu drwy Joseff (tad Iesu), a Luc drwy Mair (ei fam).